Categorïau
cymryd rhan

cymryd rhan

Fe baratowyd y wefan hon yn wreiddiol i helpu aelodau Côr ABC Chôr Dinas pan fuon ni’n creu ein perfformiad rhithwir ni o yn un rhith. Ry’n ni wedi creu a rhyddhau ein perfformiadau côr rhithwir erbyn hyn, felly rydym yn agor y wefan i helpu corau eraill a fyddai’n hoffi creu eu perfformiadau rhithwir eu hunain o’r darn.

Byddem wrth ein bodd pe baech chi’n mynd ati i recordio eich perfformiad eich hun, ac ry’n ni’n gobeithio y bydd y wefan hon yn helpu i’ch tywys drwy’r broses. Yn gyfnewid am hyn, ry’n ni’n gofyn i chi

  • roi gwybod i ni eich bod chi’n bwriadu recordio’r darn;
  • defnyddio’r trac cyfeiliant a ddarperir ar y wefan hon;
  • rhannu fideo terfynol eich perfformiad côr rhithwir â ni er mwyn i ni ei rannu ag eraill a mynd ati yn y dyfodol, o bosib, i wau’r holl fideos at ei gilydd;
  • peidio â pherfformio’r darn o flaen cynulleidfa fyw cyn i ni gael cyfle i drefnu’r perfformiad byw cyntaf ein hunain!

Ry’n ni’n edrych mlaen yn fawr at glywed eich perfformiadau rhithwir, ac ry’n ni’n gobeithio y cewch chi hyd i bopeth sydd ei angen arnoch chi ar y wefan (ac eithrio golygydd fideo i roi’r cyfan at ei gilydd i chi, wrth gwrs!).

Categorïau
cymryd rhan

gam wrth gam i arweinwyr corau

Os ydych chi wedi cael cipolwg ar y wefan a phenderfynu y byddech chi’n hoffi i’ch côr chi gymryd rhan yn y prosiect, dyma’r camau nesaf i’w cymryd.

Yn gyntaf, byddwch chi am wneud yn siŵr bod gennych chi rywun sy’n gwybod sut i olygu fideos er mwyn rhoi’r cyfan at ei gilydd i chi yn y pen draw, neu efallai y byddwch chi’ch hunan yn barod i fynd ati i ddysgu sut i wneud hyn. Mae nifer o fideos defnyddiol ar gael ar-lein i’ch tywys drwy’r broses.

Pan fyddwch chi wedi trefnu sut i olygu’r fideos, bydd angen i chi e-bostio’r fideos cywir at eich cantorion er mwyn iddyn nhw ddysgu eu llinellau a’u defnyddio i recordio. Fe allech chi hefyd awgrymu eu bod yn defnyddio’r ymarferion i gynhesu’r llais ac yn dilyn y canllawiau ar y wefan. Byddai hefyd yn syniad i chi wrando ar Gôr ABC a Chôr Dinas yn canu’r darn, a gwrando ar Dafydd John Pritchard yn darllen ei gerdd, er mwyn i chi ynganu’r geiriau yr un fath â ni.

Tra mae’ch cantorion yn dysgu eu rhannau, dylech chi neu’ch golygydd fideo drefnu sut y byddwch chi’n casglu fideos eich cantorion ynghyd (ee drwy blatfform fel Dropbox), a lawrlwytho’r trac cyfeiliant er mwyn ei lwytho i chwarae ochr yn ochr â fideos eich cantorion.

Pan fydd fideos eich cantorion wedi dod i law, bydd angen i chi neu’ch golygydd fideo eu gwau at ei gilydd ac ychwanegu’r trac cyfeiliant at eich trac sain. Ar ôl i chi wneud hynny, byddwch chi’n gallu llwytho’r fideo terfynol i safle rhannu fideos a’i rannu â’r byd! I gael profiad mor debyg â phosib at berfformiad byw, fe wnaethon ni drefnu digwyddiad première ar YouTube i rannu ein perfformiad ni, gan ddod â chynulleidfa ynghyd ar yr un pryd i wylio’r fideo gyda’i gilydd – o bell.

Yn olaf, cofiwch rannu eich fideo â ni a rhoi gwybod i ni eich bod ar fin ei ryddhau, ac fe wnawn ni rannu gwybodaeth am eich perfformiad a’ch cynnwys yn ein prosiect ehangach.

Er na allwn ni roi llawer mwy o gymorth na hyn i chi, mae croeso i chi gysylltu â ni os byddwch chi’n sylwi ar fwlch mawr yn y canllawiau hyn.

Categorïau
cymryd rhan

gam wrth gam i gantorion

Os ydych chi ar fin canu mewn côr rhithwir am y tro cyntaf, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen y canllaw isod.

beth yw côr rhithwir?

I ddechrau, byddai’n syniad i ni egluro beth yw ‘côr rhithwir’ a ‘perfformiad côr rhithwir’.

Fel arfer, bydd ‘perfformiad côr rhithwir’ yn cael ei greu mewn tri cham:

  1.  Bydd tîm bach yn cynhyrchu adnoddau i’r côr cyfan eu defnyddio. Bydd yr adnoddau hyn yn cynnwys fideo penodol ar gyfer pob adran o’r côr. Bydd yr aelodau’n canu gyda’r fideos hyn pan fyddan nhw’n ffilmio’u hunain yn canu.
  2. Bydd aelodau’r côr yn ymarfer gan ddefnyddio’r fideos a baratowyd ar eu cyfer. Pan fyddan nhw’n barod, byddan nhw’n ffilmio eu hunain yn canu wrth wrando ar y fideo.
  3. Bydd yr aelodau’n anfon y fideo ohonyn nhw’n canu at y tîm canolog, a bydd y fideos i gyd yn cael eu golygu a’u gwau at ei gilydd i greu ‘perfformiad côr rhithwir’.

Yn eich achos chi, bydd arweinydd eich côr yn rhoi gwybod i chi at bwy ddylech chi anfon eich fideo a sut i wneud hynny.

materion technegol

Mae ambell beth i’w ystyried cyn dechrau ar y broses o ddysgu eich rhan a’ch ffilmio’ch hunan yn canu. Yn gyntaf, fe ddylech chi wneud yn siŵr bod popeth wrth law i’ch helpu i ddysgu ac i recordio’r darn.

Ry’n ni’n gobeithio na fydd y gofynion hyn yn atal unrhyw un rhag cymryd rhan, ond fe fydd angen rhai pethau arnoch chi er mwyn i chi eich ffilmio’ch hunan yn canu:

·  clustffonau sydd wedi’u cysylltu â

·  dyfais i wylio’r fideo ac i ganu ochr yn ochr ag e (ee gliniadur (laptop) neu lechen (tablet)), ac, os yn bosib,

·  dyfais arall i wneud fideo ohonoch chi’n canu, (ee camera neu’r camera ar eich ffôn wedi’i osod i recordio fideo),

·  rhyw ffordd o gadw’r ddyfais honno’n llonydd ac ar ffurf tirlun (landscape) nid portread (portrait) (ee stondin, silff lyfrau neu berson arall),

·  ychydig o amser ac amynedd – bydd angen i chi wneud ychydig o ymdrech i gael popeth yn ei le, yn union fel pan fyddwch chi’n dysgu darn newydd i’w berfformio.

Ni ddylai fod angen i chi brynu unrhyw offer, meddalwedd nac apiau arbennig i’ch ffilmio’ch hunan. Os mai dim ond un ddyfais sydd gennych chi i recordio ac i wrando, mae’n bosib y bydd modd datrys y broblem hon.

Cewch gipolwg ar y dudalen ‘recordio‘ i gael canllawiau bras ar sut i’ch ffilmio’ch hunan.

dysgu, canu ac anfon

Pan fyddwch chi wedi gwneud yn siŵr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch chi, ewch ati i ymarfer y darn a’i ffilmio. Ry’n ni’n awgrymu eich bod chi’n dilyn y camau isod, ond mae croeso i chi hepgor unrhyw gamau sy’n amherthnasol i chi. Ond darllenwch drwy’r rhestr cyn dechrau!

·  Cam dewisol: lawrlwytho copi o’r darn o’r dudalen ‘lawrlwytho’ i’ch helpu i ymgyfarwyddo ag e. Does dim rhaid i chi wneud hyn oherwydd byddwch chi’n dilyn y gerddoriaeth ar y sgrin pan fyddwch chi’n ymarfer ac yn ffilmio!

·  Os ydych chi’n barod i recordio, cewch gipolwg ar y dudalen ‘recordio’ a rhowch yr holl offer yn ei le cyn dechrau canu.

·  Pan fyddwch chi’n barod i ganu:

  1. Ewch i’r dudalen ‘cynhesu’r llais’ i ystwytho’r llais.
  2. Ewch i’r dudalen ar gyfer eich rhan chi (gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un cywir gan fod dwy fersiwn o’r darn – un ar gyfer côr lleisiau uchaf ac un ar gyfer côr cymysg!) a gwyliwch y fideo ar gyfer eich rhan chi o’r dechrau i’r diwedd, gan feddwl am y llinell y byddwch chi’n ei chanu. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o’r ffordd y bydd yn teimlo i ganu’r darn.
  3. Ewch yn ôl i ddechrau’r fideo, a canwch drwy’r darn ychydig o weithiau. Os ydych chi’n teimlo’n ansicr am unrhyw ran benodol, stopiwch y fideo ac ewch yn ôl i edrych dros y rhan honno eto.
  4. Pan fyddwch chi’n teimlo eich bod chi’n gwybod y nodau’n ddigon da, pwyswch y botwm recordio ar eich camera/ffôn.
  5. Pob lwc! Peidiwch â phoeni os bydd rhaid i chi roi sawl cynnig arni. Mae hyn yn rhan hollol naturiol o’r broses.
  6. Pan fyddwch chi’n fodlon, anfonwch eich fideo at y golygydd fideo gan ddilyn cyfarwyddiadau arweinydd eich côr. 
Categorïau
cymryd rhan

lawrlwytho’r sgôr a’r cyfeiliant

Isod, fe welwch chi’r ddwy sgôr a’r trac cyfeiliant ar gyfer y prosiect i’ch helpu i ymgyfarwyddo â’r gerddoriaeth. Os mai un o’r cantorion ydych chi ac nad oes peiriant argraffu gyda chi, peidiwch â phoeni. Ry’n ni’n argymell eich bod yn dilyn y nodau ar y sgrin pan fyddwch chi’n gwylio’r fideos i ymarfer ac i recordio yn hytrach na dal copi o’r sgôr yn eich llaw.

yn un rhith, lleisiau cymysg

yn un rhith, lleisiau uchaf

yn un rhith, trac cyfeiliant

Telerau ac amodau lawrlwytho a defnyddio’r sgôr. Bwriedir i’r sgorau hyn eich helpu i gynhyrchu fideos côr rhithwir yn ystod pandemig COVID-19 ac ni chaniateir eu defnyddio tu allan i’r prosiect. Ni chaniateir perfformio na recordio’r darn na’i ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall tu allan i’r prosiect heb ofyn am ganiatâd ymlaen llaw. Pan fyddwch chi’n creu eich fideo côr rhithwir eich hun, byddwch chi’n cytuno i ddefnyddio’r trac cyfeiliant a ddarperir yma, i roi gwybod i ni eich bod yn cymryd rhan yn y prosiect, i rannu eich fideo côr rhithwir am ddim, i gydnabod cyfranwyr y prosiect (cerddoriaeth gan Andrew Cusworth, geiriau gan Dafydd John Pritchard, cyfeiliant gan Robert Russell), ac i anfon eich fideo aton ni i’w ddefnyddio mewn perthynas â’r prosiect. I roi gwybod i ni eich bod chi’n bwriadu defnyddio’r darn a/neu i ofyn am ganiatâd i’w berfformio, cysylltwch ag Andrew Cusworth drwy e-bostio andrew@ynunrhith.cymru. Drwy lawrlwytho’r ffeiliau hyn, rydych chi’n cytuno i barchu’r telerau hyn.

Categorïau
cymryd rhan

cynhesu’r llais

Dros yr wythnosau diwethaf, mae llawer ohonon ni wedi bod yn canu llai, yn symud llai, a hyd yn oed yn siarad llai. Felly, byddai’n syniad da gwneud ychydig o ymarferion i ystwytho’r cyhyrau a’r anadl.

Gallwch chi ddilyn y fideo isod i gynhesu’ch corff a’ch llais. Dyw e ddim yn berffaith o bell ffordd, a bydd rhaid i chi faddau i ni am ambell i wall, ond ry’n ni’n gobeithio y bydd e’n eich helpu chi!

Pan fyddwch chi’n barod i recordio, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fynd drwy’r ymarferion yn y bore, ac yna unwaith eto cyn i chi ddechrau canu.

Categorïau
cymryd rhan

recordio

Pan fyddwch chi’n gyfarwydd â’r darn, bydd hi’n bryd i chi ei ffilmio. Gobeithio y bydd popeth sydd ei angen arnoch chi eisoes wrth law – mae manylion i’ch helpu yn yr adran ‘gam wrth gam i gantorion’. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i osod eich dyfeisiau yn eu lle ac i fynd ati i recordio.

gosod eich offer i recordio

O’n profiad ni, y ffordd hawsaf o’ch recordio’ch hunan yn canu yw chwarae’r fideo ar un ddyfais (ee gliniadur (laptop) neu lechen (tablet)) a defnyddio dyfais arall i’ch recordio’ch hunan yn canu (ee ffôn neu gamera). 

Er enghraifft, pan wnaethon ni recordio ein fideos ni, fe wnaethon ni ddefnyddio gliniadur a chlustffonau i ddilyn y gerddoriaeth, a gosod camera ar dreipod i recordio’r fideo.

ble i recordio

Os allwch chi, cewch hyd i le tawel sydd wedi’i oleuo’n dda.

Gall fod yn syniad cau unrhyw ffenestri a diffodd sŵn eich ffôn cyn dechrau. Os yw hi’n bosib, dylech chi recordio’ch hunan mewn man heb ormod o atsain – rhywle â chlustogau a llenni efallai (bydd eich golygydd fideo’n gallu ychwanegu acwsteg ar ddiwedd y broses, felly byddai’ch stafell fyw yn well na’ch stafell molchi, er enghraifft).

Os yn bosib, dylech chi sefyll yn wynebu golau (er enghraifft, gallech chi sefyll â’ch cefn at wal a wynebu ffenest neu lamp). Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr eich bod yn glir ac yn edrych ar eich gorau. Os nad yw hi’n hawdd i chi wneud hyn, ceisiwch osgoi cael unrhyw olau llachar tu ôl i chi na rhyngoch chi a’r camera.

pethau i’w cofio

Cofiwch wrando ar y fideo drwy glustffonau i wneud yn siŵr mai dim ond eich llais chi’n canu fydd yn cael ei recordio.

Cofiwch osod eich camera yn y cyfeiriad tirlun (landscape) a ceisiwch ei roi mewn man lle bydd hanner uchaf eich corff a’ch pen i’w gweld.

Cofiwch ffeindio ffordd o gadw’r camera’n llonydd os yn bosib (ee treipod, silff lyfrau, neu berson arall).

Cofiwch roi’r camera’n weddol agos atoch chi os yn bosib ­– mae’n bwysicach eich gweld a’ch clywed chi yn hytrach na’r gofod ry’ch chi’n recordio ynddo!

Cofiwch nad oes angen copi caled o’r darn arnoch chi na chopi o’r sgôr gyfan. Byddwch chi’n dilyn y nodau ar y sgrin, a bydd arweinydd yno i’ch helpu hefyd! 

recordio eich hunan

Pan fyddwch chi’n barod i recordio, byddwch chi’n gyfarwydd â’r drefn ar ddechrau’r fideo, felly byddwch chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl a beth i’w wneud o ran dilyn y cyfarwyddiadau.

Cofiwch glapio mewn amser gyda’r profion clapio oherwydd bydd hyn yn helpu’r golygydd i wau’r fideos i gyd at ei gilydd; a cofiwch ganu!

Mae’n bosib y byddwch chi’n gwneud ambell gamgymeriad ac y bydd angen i chi roi sawl cynnig arni – yn sicr, fe fuodd yn rhaid i ni wneud hynny! Felly, rhowch ddigon o amser i chi’ch hunan, a byddwch yn amyneddgar.

os byddwch chi’n gwneud camgymeriad yn agos at y diwedd…

Os yw popeth wedi mynd yn wych tan i chi wneud camgymeriad ar ‘dudalen’ olaf y fideo, stopiwch recordio, ailosodwch y fideo er mwyn iddo ddechrau chwarae o dop y dudalen olaf, a recordiwch y dudalen honno yn unig. Yna, anfonwch y ddwy ffeil i’w golygu at ei gilydd ar y diwedd.

wir eisiau cymryd rhan; wir ddim eisiau ffilmio’ch hunan

Ry’n ni’n awyddus iawn i chi gynhyrchu rhywbeth sy’n edrych mor debyg â phosib i gôr, felly ry’n ni’n gobeithio y byddwch chi’n anfon fideos ohonoch chi’n canu aton ni. Ond os mai’r syniad o ffilmio’ch hunan yw’r unig beth sy’n eich rhwystro rhag cymryd rhan yn y prosiect, beth am recordio ffeil sain yn lle fideo? 

Categorïau
cyflwyniad cymryd rhan

ymateb ein cantorion ni

Fe ofynnon ni i aelodau ein corau am eu hymateb i’r profiad o gymryd rhan yn y prosiect hwn a’r ymarferion rhithiol a’i hysbrydolodd.

Categorïau
cyflwyniad cymryd rhan

diolch yn fawr

Diolch yn fawr i Dafydd John Pritchard am gyfansoddi’r englyn ac am ganiatáu iddo gael ei osod i gerddoriaeth; i Gwennan Williams am ei chefnogaeth ac am ei gwaith i baratoi’r fideos cyfarwyddol; i Robert Russell am ei waith yn cyfeilio, yn cynhyrchu’r fideos cyfarwyddol, ac yn rhoi’r corau rhithwir at ei gilydd; ac i bob un ohonoch chi am gefnogi’r prosiect, boed drwy gymryd rhan neu ddangos diddordeb ynddo.

css.php