Categorïau
cymryd rhan

gam wrth gam i gantorion

Os ydych chi ar fin canu mewn côr rhithwir am y tro cyntaf, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen y canllaw isod.

beth yw côr rhithwir?

I ddechrau, byddai’n syniad i ni egluro beth yw ‘côr rhithwir’ a ‘perfformiad côr rhithwir’.

Fel arfer, bydd ‘perfformiad côr rhithwir’ yn cael ei greu mewn tri cham:

  1.  Bydd tîm bach yn cynhyrchu adnoddau i’r côr cyfan eu defnyddio. Bydd yr adnoddau hyn yn cynnwys fideo penodol ar gyfer pob adran o’r côr. Bydd yr aelodau’n canu gyda’r fideos hyn pan fyddan nhw’n ffilmio’u hunain yn canu.
  2. Bydd aelodau’r côr yn ymarfer gan ddefnyddio’r fideos a baratowyd ar eu cyfer. Pan fyddan nhw’n barod, byddan nhw’n ffilmio eu hunain yn canu wrth wrando ar y fideo.
  3. Bydd yr aelodau’n anfon y fideo ohonyn nhw’n canu at y tîm canolog, a bydd y fideos i gyd yn cael eu golygu a’u gwau at ei gilydd i greu ‘perfformiad côr rhithwir’.

Yn eich achos chi, bydd arweinydd eich côr yn rhoi gwybod i chi at bwy ddylech chi anfon eich fideo a sut i wneud hynny.

materion technegol

Mae ambell beth i’w ystyried cyn dechrau ar y broses o ddysgu eich rhan a’ch ffilmio’ch hunan yn canu. Yn gyntaf, fe ddylech chi wneud yn siŵr bod popeth wrth law i’ch helpu i ddysgu ac i recordio’r darn.

Ry’n ni’n gobeithio na fydd y gofynion hyn yn atal unrhyw un rhag cymryd rhan, ond fe fydd angen rhai pethau arnoch chi er mwyn i chi eich ffilmio’ch hunan yn canu:

·  clustffonau sydd wedi’u cysylltu â

·  dyfais i wylio’r fideo ac i ganu ochr yn ochr ag e (ee gliniadur (laptop) neu lechen (tablet)), ac, os yn bosib,

·  dyfais arall i wneud fideo ohonoch chi’n canu, (ee camera neu’r camera ar eich ffôn wedi’i osod i recordio fideo),

·  rhyw ffordd o gadw’r ddyfais honno’n llonydd ac ar ffurf tirlun (landscape) nid portread (portrait) (ee stondin, silff lyfrau neu berson arall),

·  ychydig o amser ac amynedd – bydd angen i chi wneud ychydig o ymdrech i gael popeth yn ei le, yn union fel pan fyddwch chi’n dysgu darn newydd i’w berfformio.

Ni ddylai fod angen i chi brynu unrhyw offer, meddalwedd nac apiau arbennig i’ch ffilmio’ch hunan. Os mai dim ond un ddyfais sydd gennych chi i recordio ac i wrando, mae’n bosib y bydd modd datrys y broblem hon.

Cewch gipolwg ar y dudalen ‘recordio‘ i gael canllawiau bras ar sut i’ch ffilmio’ch hunan.

dysgu, canu ac anfon

Pan fyddwch chi wedi gwneud yn siŵr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch chi, ewch ati i ymarfer y darn a’i ffilmio. Ry’n ni’n awgrymu eich bod chi’n dilyn y camau isod, ond mae croeso i chi hepgor unrhyw gamau sy’n amherthnasol i chi. Ond darllenwch drwy’r rhestr cyn dechrau!

·  Cam dewisol: lawrlwytho copi o’r darn o’r dudalen ‘lawrlwytho’ i’ch helpu i ymgyfarwyddo ag e. Does dim rhaid i chi wneud hyn oherwydd byddwch chi’n dilyn y gerddoriaeth ar y sgrin pan fyddwch chi’n ymarfer ac yn ffilmio!

·  Os ydych chi’n barod i recordio, cewch gipolwg ar y dudalen ‘recordio’ a rhowch yr holl offer yn ei le cyn dechrau canu.

·  Pan fyddwch chi’n barod i ganu:

  1. Ewch i’r dudalen ‘cynhesu’r llais’ i ystwytho’r llais.
  2. Ewch i’r dudalen ar gyfer eich rhan chi (gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un cywir gan fod dwy fersiwn o’r darn – un ar gyfer côr lleisiau uchaf ac un ar gyfer côr cymysg!) a gwyliwch y fideo ar gyfer eich rhan chi o’r dechrau i’r diwedd, gan feddwl am y llinell y byddwch chi’n ei chanu. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o’r ffordd y bydd yn teimlo i ganu’r darn.
  3. Ewch yn ôl i ddechrau’r fideo, a canwch drwy’r darn ychydig o weithiau. Os ydych chi’n teimlo’n ansicr am unrhyw ran benodol, stopiwch y fideo ac ewch yn ôl i edrych dros y rhan honno eto.
  4. Pan fyddwch chi’n teimlo eich bod chi’n gwybod y nodau’n ddigon da, pwyswch y botwm recordio ar eich camera/ffôn.
  5. Pob lwc! Peidiwch â phoeni os bydd rhaid i chi roi sawl cynnig arni. Mae hyn yn rhan hollol naturiol o’r broses.
  6. Pan fyddwch chi’n fodlon, anfonwch eich fideo at y golygydd fideo gan ddilyn cyfarwyddiadau arweinydd eich côr. 
css.php