Categorïau
cymryd rhan

recordio

Pan fyddwch chi’n gyfarwydd â’r darn, bydd hi’n bryd i chi ei ffilmio. Gobeithio y bydd popeth sydd ei angen arnoch chi eisoes wrth law – mae manylion i’ch helpu yn yr adran ‘gam wrth gam i gantorion’. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i osod eich dyfeisiau yn eu lle ac i fynd ati i recordio.

gosod eich offer i recordio

O’n profiad ni, y ffordd hawsaf o’ch recordio’ch hunan yn canu yw chwarae’r fideo ar un ddyfais (ee gliniadur (laptop) neu lechen (tablet)) a defnyddio dyfais arall i’ch recordio’ch hunan yn canu (ee ffôn neu gamera). 

Er enghraifft, pan wnaethon ni recordio ein fideos ni, fe wnaethon ni ddefnyddio gliniadur a chlustffonau i ddilyn y gerddoriaeth, a gosod camera ar dreipod i recordio’r fideo.

ble i recordio

Os allwch chi, cewch hyd i le tawel sydd wedi’i oleuo’n dda.

Gall fod yn syniad cau unrhyw ffenestri a diffodd sŵn eich ffôn cyn dechrau. Os yw hi’n bosib, dylech chi recordio’ch hunan mewn man heb ormod o atsain – rhywle â chlustogau a llenni efallai (bydd eich golygydd fideo’n gallu ychwanegu acwsteg ar ddiwedd y broses, felly byddai’ch stafell fyw yn well na’ch stafell molchi, er enghraifft).

Os yn bosib, dylech chi sefyll yn wynebu golau (er enghraifft, gallech chi sefyll â’ch cefn at wal a wynebu ffenest neu lamp). Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr eich bod yn glir ac yn edrych ar eich gorau. Os nad yw hi’n hawdd i chi wneud hyn, ceisiwch osgoi cael unrhyw olau llachar tu ôl i chi na rhyngoch chi a’r camera.

pethau i’w cofio

Cofiwch wrando ar y fideo drwy glustffonau i wneud yn siŵr mai dim ond eich llais chi’n canu fydd yn cael ei recordio.

Cofiwch osod eich camera yn y cyfeiriad tirlun (landscape) a ceisiwch ei roi mewn man lle bydd hanner uchaf eich corff a’ch pen i’w gweld.

Cofiwch ffeindio ffordd o gadw’r camera’n llonydd os yn bosib (ee treipod, silff lyfrau, neu berson arall).

Cofiwch roi’r camera’n weddol agos atoch chi os yn bosib ­– mae’n bwysicach eich gweld a’ch clywed chi yn hytrach na’r gofod ry’ch chi’n recordio ynddo!

Cofiwch nad oes angen copi caled o’r darn arnoch chi na chopi o’r sgôr gyfan. Byddwch chi’n dilyn y nodau ar y sgrin, a bydd arweinydd yno i’ch helpu hefyd! 

recordio eich hunan

Pan fyddwch chi’n barod i recordio, byddwch chi’n gyfarwydd â’r drefn ar ddechrau’r fideo, felly byddwch chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl a beth i’w wneud o ran dilyn y cyfarwyddiadau.

Cofiwch glapio mewn amser gyda’r profion clapio oherwydd bydd hyn yn helpu’r golygydd i wau’r fideos i gyd at ei gilydd; a cofiwch ganu!

Mae’n bosib y byddwch chi’n gwneud ambell gamgymeriad ac y bydd angen i chi roi sawl cynnig arni – yn sicr, fe fuodd yn rhaid i ni wneud hynny! Felly, rhowch ddigon o amser i chi’ch hunan, a byddwch yn amyneddgar.

os byddwch chi’n gwneud camgymeriad yn agos at y diwedd…

Os yw popeth wedi mynd yn wych tan i chi wneud camgymeriad ar ‘dudalen’ olaf y fideo, stopiwch recordio, ailosodwch y fideo er mwyn iddo ddechrau chwarae o dop y dudalen olaf, a recordiwch y dudalen honno yn unig. Yna, anfonwch y ddwy ffeil i’w golygu at ei gilydd ar y diwedd.

wir eisiau cymryd rhan; wir ddim eisiau ffilmio’ch hunan

Ry’n ni’n awyddus iawn i chi gynhyrchu rhywbeth sy’n edrych mor debyg â phosib i gôr, felly ry’n ni’n gobeithio y byddwch chi’n anfon fideos ohonoch chi’n canu aton ni. Ond os mai’r syniad o ffilmio’ch hunan yw’r unig beth sy’n eich rhwystro rhag cymryd rhan yn y prosiect, beth am recordio ffeil sain yn lle fideo? 

css.php