Categorïau
cyflwyniad

y prosiect

Mae Côr ABC, côr cymysg o Aberystwyth, a Côr Dinas, côr merched Cymry Llundain, wedi bod yn cydweithio ar brosiect côr rhithwir i baratoi perfformiad cyntaf darn newydd a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr, Andrew Cusworth, yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud.

Yn ôl ym mis Mawrth, bu’n rhaid i ymarferion côr wythnosol ddod i ben yn ddisymwth wrth i COVID-19 ledaenu o amgylch y byd ac wrth i lywodraethau gyflwyno cyfyngiadau ar bob agwedd ar fywyd bob dydd. Yn sgil hyn, fe ddechreuodd Côr ABC a Côr Dinas gwrdd ac ymarfer o bell, gan roi cyfle i’r aelodau gynnal eu cysylltiadau cymdeithasol, yn ogystal â pharhau i ganu a chreu cerddoriaeth. Fe ddaeth yr ymarferion hyn, eu hunain, yn ysbrydoliaeth ar gyfer darn corawl newydd a phrosiect côr rhithwir.

Ar ôl un o ymarferion Côr ABC, fe ysgrifennodd un o’r aelodau, y Prifardd Dafydd John Pritchard, englyn am y profiad a’i bostio ar Twitter. Ar ôl darllen y gerdd, fe aeth Andrew Cusworth, un o’i gyd-aelodau ac arweinydd Côr Dinas, ati i’w gosod i gerddoriaeth, gan greu darn i’r ddau gôr ei ganu gyda’i gilydd yn rhithwir.

Wrth siarad am ei ddarn newydd, yn un rhith, dywedodd Andrew: “Mae’r darn, sy’n seiliedig ar gerdd Dafydd, yn disgrifio’r ffordd rydyn ni i gyd, er o bell, yn dal i fod yn unedig yn ein nod, fel cymuned, o ganu – gan ddatgan ein bod ni’n gôr o hyd.”

Fe aeth aelodau’r ddau gôr ati i ffilmio’u hunain yn canu’r darn, cyn i’r holl fideos unigol gael eu gwau at ei gilydd i greu perfformiad côr rhithwir gan Robert Russell sydd hefyd yn cyfeilio i’r corau yn y perfformiad.

Wrth ddisgrifio nod y prosiect, dywedodd Gwennan Williams, arweinydd Côr ABC: “Wrth fynd ati i roi’r prosiect ar waith, ein gobaith ni, fel tîm, oedd y bydden ni’n creu rhywbeth y byddai ein haelodau’n mwynhau ei wneud, a rhywbeth y bydd pob un ohonon ni’n gallu edrych ‘nôl arno, rywbryd yn y dyfodol, i’n hatgoffa ein bod wedi gwneud rhywbeth positif mewn cyfnod anodd.” 

Cafodd perfformiad cyntaf yn un rhith gan gôr cyfun Côr ABC a Côr Dinas ei ryddhau ar 22 Mai 2020 mewn digwyddiad première ar YouTube. Ar wahân, mae’r corau hefyd wedi perfformio fersiynau o’r darn ar gyfer côr cymysg a chôr lleisiau uchaf.

Gan fod y fideos hynny wedi’u cwblhau erbyn hyn, ry’n ni’n agor y prosiect i gorau eraill yn ystod pandemig COVID-19.

Categorïau
cyflwyniad

y geiriau

Daw geiriau’r darn hwn o englyn a ysgrifennwyd gan y prifardd Dafydd John Pritchard ar ôl iddo fynd i ymarfer rhithwir cyntaf Côr ABC. Dyma Dafydd yn darllen ei gerdd.

Er o bell, roedd herio byd heno’n gân 
    yn y gwaed, yn fywyd, 
  pob tôn yn fonllef hefyd,
  yn un rhith, yn gôr o hyd.

Categorïau
cyflwyniad

pobl

Côr ABC

Côr cymysg o Aberystwyth yw Côr ABC. Gwennan Williams yw arweinydd y côr, a Louise Amery yw’r cyfeilydd. Fel rheol, mae gan y côr raglen brysur o weithgareddau sy’n cynnwys cynnal cyngherddau, cymryd rhan mewn cystadlaethau, a recordio.

Gwefan Côr ABC

Côr Dinas

Côr Dinas yw côr merched Cymry Llundain. Andrew Cusworth yw arweinydd y côr, a Robert Russell yw’r cyfeilydd. Mae’n gymuned glòs o gantorion sy’n perfformio’n rheolaidd mewn cyngherddau, gwasanaethau, a chystadlaethau o bob math.

Gwefan Côr Dinas

Dafydd John Pritchard

Mae Dafydd John Pritchard yn fardd a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr, 1996. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi; dim ond deud (Barddas, 2006) a Lôn Fain (Barddas, 2013). Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd y Cŵps a thîm ymryson Ceredigion yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n Gadeirydd Barddas am bum mlynedd ac mae’n adolygydd cyson. Mae’n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Fe ysgrifennodd Dafydd yr englyn a osodwyd ar gyfer y darn hwn.

Robert Russell

Cyfansoddwr a aned yn Awstralia ond sydd bellach yn byw yn Lloegr yw Robert Russell. Mae’n cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer sioeau cerdd, gêmau fideo a bandiau roc yn bennaf, ond mae hefyd yn gyfeilydd dawnus (gan gynnwys i Gôr Dinas), yn recordio cantorion, ac yn dysgu mathemateg.

I gael gwybod mwy am Robert a’i waith, ewch i RobertRussellMusic.net neu youtube.com/RobertRussellMusic.

Robert sydd wedi cynhyrchu’r holl fideos sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn, yn ogystal â darparu cyfeiliant piano ar gyfer y perfformiad rhithwir.

Gwennan Williams

Mae Gwennan Williams yn gerddor sy’n frwd dros gerddoriaeth gorawl a cherddoriaeth gymunedol. Mae ganddi radd anrhydedd gyfun mewn cerddoriaeth ac Almaeneg o Brifysgol Birmingham. Mae’n arwain Côr ABC ers 2013, ac fe enillodd dlws Arweinydd yr Ŵyl yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2018.

Fe ganodd Gwennan bob un o’r rhannau i ferched yn y fideos cyfarwyddol.

Andrew Cusworth

Mae Andrew Cusworth yn academydd, yn arweinydd, ac yn gyfansoddwr sydd wedi ennill gwobrau am ei gyfansoddiadau. Ar hyn o bryd, mae’n Gymrawd Ymchwil 1851 yn Llyfrgelloedd y Bodleian, Prifysgol Rhydychen. Mae’n arwain Côr Dinas ac yn aelod o Gôr ABC.

Fe osododd Andrew englyn Dafydd i greu’r darn ar gyfer y prosiect hwn, ac mae e hefyd yn arwain y perfformiad rhithwir.

Gwefan Andrew Cusworth

Categorïau
cyflwyniad

os ydych chi’n hoffi hyn…

Ymhlith yr holl resymau pam ein bod ni’n canu mewn corau mae’r effaith bositif y mae hynny’n ei chael ar ein hiechyd meddwl. Ar wahân i’r manteision amlwg sy’n dod o ganu mewn grŵp, mae corau hefyd yn ficro-gymunedau sy’n cael eu huno gan yr awydd i greu cerddoriaeth; mae corau’n aml yn cynnwys pobl amrywiol sy’n rhannu’r un profiadau, yn cefnogi ei gilydd, ac yn mwynhau ochr gymdeithasol canu corawl, yn ogystal â’r canu ei hun. Yn ystod y cyfnod dan glo, bu’n rhaid i gorau gael hyd i ffyrdd newydd o barhau i gwrdd, nid dim ond am resymau cerddorol, ond hefyd am resymau cymdeithasol a chymunedol, a hynny fel modd o godi calon yr aelodau, cadw mewn cysylltiad, a gofalu am ei gilydd. O gofio’r holl rinweddau hyn a chefndir cymunedol y prosiect, fe hoffem dynnu eich sylw at bwysigrwydd cerddoriaeth yn ein bywydau ni ac, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn y DU, at ei phwysigrwydd o ran ein lles ni.

Felly, os ydych chi wedi mwynhau dod i wybod am y prosiect, gwrando arno, neu gymryd rhan ynddo, ac os ydych chi mewn sefyllfa i wneud hynny, beth am ystyried rhoi rhodd i elusen iechyd meddwl neu elusen gerddorol yn eich ardal chi?

Categorïau
cyflwyniad cymryd rhan

ymateb ein cantorion ni

Fe ofynnon ni i aelodau ein corau am eu hymateb i’r profiad o gymryd rhan yn y prosiect hwn a’r ymarferion rhithiol a’i hysbrydolodd.

Categorïau
cyflwyniad cymryd rhan

diolch yn fawr

Diolch yn fawr i Dafydd John Pritchard am gyfansoddi’r englyn ac am ganiatáu iddo gael ei osod i gerddoriaeth; i Gwennan Williams am ei chefnogaeth ac am ei gwaith i baratoi’r fideos cyfarwyddol; i Robert Russell am ei waith yn cyfeilio, yn cynhyrchu’r fideos cyfarwyddol, ac yn rhoi’r corau rhithwir at ei gilydd; ac i bob un ohonoch chi am gefnogi’r prosiect, boed drwy gymryd rhan neu ddangos diddordeb ynddo.

css.php