Categorïau
cymryd rhan

gam wrth gam i arweinwyr corau

Os ydych chi wedi cael cipolwg ar y wefan a phenderfynu y byddech chi’n hoffi i’ch côr chi gymryd rhan yn y prosiect, dyma’r camau nesaf i’w cymryd.

Yn gyntaf, byddwch chi am wneud yn siŵr bod gennych chi rywun sy’n gwybod sut i olygu fideos er mwyn rhoi’r cyfan at ei gilydd i chi yn y pen draw, neu efallai y byddwch chi’ch hunan yn barod i fynd ati i ddysgu sut i wneud hyn. Mae nifer o fideos defnyddiol ar gael ar-lein i’ch tywys drwy’r broses.

Pan fyddwch chi wedi trefnu sut i olygu’r fideos, bydd angen i chi e-bostio’r fideos cywir at eich cantorion er mwyn iddyn nhw ddysgu eu llinellau a’u defnyddio i recordio. Fe allech chi hefyd awgrymu eu bod yn defnyddio’r ymarferion i gynhesu’r llais ac yn dilyn y canllawiau ar y wefan. Byddai hefyd yn syniad i chi wrando ar Gôr ABC a Chôr Dinas yn canu’r darn, a gwrando ar Dafydd John Pritchard yn darllen ei gerdd, er mwyn i chi ynganu’r geiriau yr un fath â ni.

Tra mae’ch cantorion yn dysgu eu rhannau, dylech chi neu’ch golygydd fideo drefnu sut y byddwch chi’n casglu fideos eich cantorion ynghyd (ee drwy blatfform fel Dropbox), a lawrlwytho’r trac cyfeiliant er mwyn ei lwytho i chwarae ochr yn ochr â fideos eich cantorion.

Pan fydd fideos eich cantorion wedi dod i law, bydd angen i chi neu’ch golygydd fideo eu gwau at ei gilydd ac ychwanegu’r trac cyfeiliant at eich trac sain. Ar ôl i chi wneud hynny, byddwch chi’n gallu llwytho’r fideo terfynol i safle rhannu fideos a’i rannu â’r byd! I gael profiad mor debyg â phosib at berfformiad byw, fe wnaethon ni drefnu digwyddiad première ar YouTube i rannu ein perfformiad ni, gan ddod â chynulleidfa ynghyd ar yr un pryd i wylio’r fideo gyda’i gilydd – o bell.

Yn olaf, cofiwch rannu eich fideo â ni a rhoi gwybod i ni eich bod ar fin ei ryddhau, ac fe wnawn ni rannu gwybodaeth am eich perfformiad a’ch cynnwys yn ein prosiect ehangach.

Er na allwn ni roi llawer mwy o gymorth na hyn i chi, mae croeso i chi gysylltu â ni os byddwch chi’n sylwi ar fwlch mawr yn y canllawiau hyn.

css.php