Categorïau
cyflwyniad

y prosiect

Mae Côr ABC, côr cymysg o Aberystwyth, a Côr Dinas, côr merched Cymry Llundain, wedi bod yn cydweithio ar brosiect côr rhithwir i baratoi perfformiad cyntaf darn newydd a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr, Andrew Cusworth, yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud.

Yn ôl ym mis Mawrth, bu’n rhaid i ymarferion côr wythnosol ddod i ben yn ddisymwth wrth i COVID-19 ledaenu o amgylch y byd ac wrth i lywodraethau gyflwyno cyfyngiadau ar bob agwedd ar fywyd bob dydd. Yn sgil hyn, fe ddechreuodd Côr ABC a Côr Dinas gwrdd ac ymarfer o bell, gan roi cyfle i’r aelodau gynnal eu cysylltiadau cymdeithasol, yn ogystal â pharhau i ganu a chreu cerddoriaeth. Fe ddaeth yr ymarferion hyn, eu hunain, yn ysbrydoliaeth ar gyfer darn corawl newydd a phrosiect côr rhithwir.

Ar ôl un o ymarferion Côr ABC, fe ysgrifennodd un o’r aelodau, y Prifardd Dafydd John Pritchard, englyn am y profiad a’i bostio ar Twitter. Ar ôl darllen y gerdd, fe aeth Andrew Cusworth, un o’i gyd-aelodau ac arweinydd Côr Dinas, ati i’w gosod i gerddoriaeth, gan greu darn i’r ddau gôr ei ganu gyda’i gilydd yn rhithwir.

Wrth siarad am ei ddarn newydd, yn un rhith, dywedodd Andrew: “Mae’r darn, sy’n seiliedig ar gerdd Dafydd, yn disgrifio’r ffordd rydyn ni i gyd, er o bell, yn dal i fod yn unedig yn ein nod, fel cymuned, o ganu – gan ddatgan ein bod ni’n gôr o hyd.”

Fe aeth aelodau’r ddau gôr ati i ffilmio’u hunain yn canu’r darn, cyn i’r holl fideos unigol gael eu gwau at ei gilydd i greu perfformiad côr rhithwir gan Robert Russell sydd hefyd yn cyfeilio i’r corau yn y perfformiad.

Wrth ddisgrifio nod y prosiect, dywedodd Gwennan Williams, arweinydd Côr ABC: “Wrth fynd ati i roi’r prosiect ar waith, ein gobaith ni, fel tîm, oedd y bydden ni’n creu rhywbeth y byddai ein haelodau’n mwynhau ei wneud, a rhywbeth y bydd pob un ohonon ni’n gallu edrych ‘nôl arno, rywbryd yn y dyfodol, i’n hatgoffa ein bod wedi gwneud rhywbeth positif mewn cyfnod anodd.” 

Cafodd perfformiad cyntaf yn un rhith gan gôr cyfun Côr ABC a Côr Dinas ei ryddhau ar 22 Mai 2020 mewn digwyddiad première ar YouTube. Ar wahân, mae’r corau hefyd wedi perfformio fersiynau o’r darn ar gyfer côr cymysg a chôr lleisiau uchaf.

Gan fod y fideos hynny wedi’u cwblhau erbyn hyn, ry’n ni’n agor y prosiect i gorau eraill yn ystod pandemig COVID-19.

css.php