Isod, fe welwch chi’r ddwy sgôr a’r trac cyfeiliant ar gyfer y prosiect i’ch helpu i ymgyfarwyddo â’r gerddoriaeth. Os mai un o’r cantorion ydych chi ac nad oes peiriant argraffu gyda chi, peidiwch â phoeni. Ry’n ni’n argymell eich bod yn dilyn y nodau ar y sgrin pan fyddwch chi’n gwylio’r fideos i ymarfer ac i recordio yn hytrach na dal copi o’r sgôr yn eich llaw.
yn un rhith, lleisiau cymysg
yn un rhith, lleisiau uchaf
yn un rhith, trac cyfeiliant
Telerau ac amodau lawrlwytho a defnyddio’r sgôr. Bwriedir i’r sgorau hyn eich helpu i gynhyrchu fideos côr rhithwir yn ystod pandemig COVID-19 ac ni chaniateir eu defnyddio tu allan i’r prosiect. Ni chaniateir perfformio na recordio’r darn na’i ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall tu allan i’r prosiect heb ofyn am ganiatâd ymlaen llaw. Pan fyddwch chi’n creu eich fideo côr rhithwir eich hun, byddwch chi’n cytuno i ddefnyddio’r trac cyfeiliant a ddarperir yma, i roi gwybod i ni eich bod yn cymryd rhan yn y prosiect, i rannu eich fideo côr rhithwir am ddim, i gydnabod cyfranwyr y prosiect (cerddoriaeth gan Andrew Cusworth, geiriau gan Dafydd John Pritchard, cyfeiliant gan Robert Russell), ac i anfon eich fideo aton ni i’w ddefnyddio mewn perthynas â’r prosiect. I roi gwybod i ni eich bod chi’n bwriadu defnyddio’r darn a/neu i ofyn am ganiatâd i’w berfformio, cysylltwch ag Andrew Cusworth drwy e-bostio andrew@ynunrhith.cymru. Drwy lawrlwytho’r ffeiliau hyn, rydych chi’n cytuno i barchu’r telerau hyn.