Categorïau
newyddion

cyflwyno £500 i wefan iechyd meddwl

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020, mae Côr ABC wedi cyflwyno £500 i meddwl.org, gwefan sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr i ddarparu gwybodaeth am faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe godwyd yr arian drwy werthu printiau o waith celf gan yr arlunydd, Sioned Glyn, a gomisiynwyd gan Gôr ABC a Chôr Dinas yn sgil prosiect côr rhithwir yn un rhith i berfformio darn newydd sbon o’r un enw gan y cyfansoddwr, Andrew Cusworth, ar eiriau englyn y prifardd, Dafydd John Pritchard.

Dywedodd Gwennan Williams, arweinydd Côr ABC: “Roedden ni i fod i gymryd rhan mewn cyngerdd i godi arian i wefan Meddwl yn ôl ym mis Mehefin, ond gan fod y cyngerdd hwnnw wedi gorfod cael ei ganslo oherwydd y pandemig, ry’n ni’n falch iawn ein bod ni nawr yn gallu cyflwyno’r rhodd hwn a godwyd drwy ein prosiect yn ystod y cyfnod clo i’r wefan.

“Mae’r prosiect côr rhithwir a’n hymarferion rhithwir wythnosol wedi bod yn werth y byd i lawer ohonom dros y misoedd diwethaf, ac mae’n briodol bod y côr wedi dewis cefnogi gwefan sy’n sicrhau bod mwy o adnoddau a gwybodaeth am iechyd meddwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ei weithgareddau yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Ychwanegodd Andrew Cusworth, y cyfansoddwr ac arweinydd y prosiect: “Yr effaith bositif ar ein hiechyd meddwl yw un o’r nifer fawr o resymau pam ein bod ni’n canu mewn corau. Yn ystod y cyfnod clo, bu’n rhaid i gorau gael hyd i ffyrdd newydd o barhau i gwrdd, nid dim ond am resymau cerddorol, ond hefyd am resymau cymdeithasol a chymunedol, a hynny fel modd o godi calon yr aelodau, cadw mewn cysylltiad, a gofalu am ei gilydd. “A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae’n ein hatgoffa eto o bwysigrwydd cerddoriaeth yn ein bywydau ni, a’i phwysigrwydd i’n lles ni. Mae’r rhodd hwn i wefan Meddwl yn gydnaws ag amcanion ein prosiect, ac ry’n ni hefyd yn falch o estyn y prosiect er mwyn i gorau eraill greu eu perfformiadau rhithwir eu hunain o’r darn tra mae’r cyfyngiadau’n parhau.”

Categorïau
newyddion

gwaith celf yn un rhith

I ddiolch i’r tîm creadigol am eu gwaith ar y prosiect, mae Côr ABC a Chôr Dinas wedi comisiynu gwaith celf gan yr arlunydd, Sioned Glyn. Gyda geiriau’r englyn wrth galon y gwaith, mae Sioned wedi creu triptych – tri darlun sy’n cysylltu’r dirwedd rhwng Aberystwyth a Llundain, gyda’r golygfeydd, fel y corau, yn creu un cyfanwaith er eu bod ar wahân.

Cyflwynwyd y darluniau gwreiddiol i aelodau’r tîm creadigol yn ddiweddar, ac mae printiau o’r golygfeydd unigol ar gael nawr i’w harchebu drwy’r côr: maint A4 am £30 yr un a maint A5 am £20 yr un (y ddau bris yn cynnwys mount). I gael mwy o wybodaeth neu i archebu print, cysylltwch â’r corau erbyn 24 Awst 2020.

Categorïau
newyddion

eich tro chi…

Rydym ni wedi recordio a rhyddhau ein perfformiad o’r darn. Eich tro chi yw hi i’w recordio gyda’ch côr chi nawr!

O heddiw ymlaen, bydd yr holl adnoddau a ddefnyddiwyd i greu prosiect yn un rhith ar gael am ddim ar y wefan hon i’w defnyddio gan gorau eraill i greu eu perfformiadau rhithiol eu hunain, gan gynnwys copïau o’r gerddoriaeth, fideos i ddysgu ac i recordio’r darn, canllawiau recordio, trac cyfeiliant, ac ymarferion.

Mae dwy fersiwn o’r darn ar gael – y naill i leisiau cymysg a’r llall i leisiau uchaf.

Mae’r darn yn addas i gorau cymysg, corau ieuenctid, a chorau lleisiau uchaf.

Categorïau
newyddion

ffrydio ar Choral Stream

Heddiw, cafodd yn un rhith ei ffrydio ar dudalen facebook Choral Stream, gorsaf radio Minnesota Public Radio ar gyfer cerddoriaeth gorawl.

Categorïau
newyddion

#EinBro

Heddiw, bydd perfformiad côr cyfun Côr ABC a Chôr Dinas o yn un rhith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau rhithiol dan ofal BroAber360, gwefan gymunedol gogledd Ceredigion.

Cofiwch wylio am 17:15 prynhawn ‘ma!

Categorïau
newyddion

perfformiad mewn gwasanaeth capel yn Llundain

Rydym yn falch iawn o glywed y bydd Capel y Boro, Llundain, yn chwarae perfformiad côr cyfun Côr ABC a Chôr Dinas o yn un rhith yn ystod y gwasanaeth bore fory.

Capel y Boro yw cartref Côr Dinas, ac rydym yn falch bod y côr, ochr yn ochr â Chôr ABC, yn gallu canu yn un o’i wasanaethau rhithiol yn ystod y cyfnod hwn.

Categorïau
newyddion

rhyddhau mwy o berfformiadau

Nos Wener diwethaf, fe roddwyd perfformiad cyntaf yn un rhith gan gôr cyfun Côr ABC a Chôr Dinas, ond mae’r ddau gôr hefyd wedi canu, ar wahân, fersiynau o’r darn ar gyfer côr cymysg a chôr lleisiau uchaf.

Rydym yn falch iawn bod y perfformiadau hyn wedi’u rhyddhau hefyd erbyn hyn ar sianeli YouTube y naill gôr a’r llall:

Côr ABC – fersiwn o yn un rhith i gôr cymysg

Côr Dinas – fersiwn o yn un rhith i gôr lleisiau uchaf

Categorïau
newyddion

croeso cynnes i’r perfformiad cyntaf

Diolch o galon i bawb a ymunodd â ni neithiwr i wylio perfformiad cyntaf yn un rhith, a diolch am ymateb mor gynnes.

Dyma ddetholiad o’r sylwadau ar YouTube a Twitter:

‘Perfformiad gwbwl hyfryd. Diolch am gyfansoddi a chanu’r darn.’

‘Braint cael gwylio a gwrando. Perfformiad arbennig.’

‘Hyfryd iawn – llongyfarchiadau i bawb.’

‘Hollol wefreiddiol, a mor emosiynol.’

Categorïau
newyddion

perfformiad cyntaf yn un rhith heno

Rydym yn edrych ymlaen at rannu perfformiad cyntaf yn un rhith gan gôr cyfun Côr ABC a Chôr Dinas â’r byd heno.

Ymunwch â ni am 19:00 BST drwy’r linc isod:

https://www.youtube.com/watch?v=HA1ehR1odWA

Categorïau
newyddion

sylw ar y cyfryngau

Heddiw, cafodd ein prosiect sylw ar Radio Cymru pan fu Gwennan Williams yn sgwrsio am y prosiect â Shân Cothi yn ystod rhaglen Bore Cothi.

Tynnodd Gwennan sylw at y ffaith fod y cyfle i weithio ar y prosiect ac i gyd-ganu, hyd yn oed o bell, wedi rhoi ffocws i aelodau’r ddau gôr a chodi calon yr aelodau yn ystod cyfnod anodd ac ansicr.

Mae’r prosiect a’r perfformiad cyntaf hefyd wedi cael sylw mewn papurau newydd lleol, gan gynnwys y Cambrian News, y Tenby Observer, y Western Telegraph, a’r Tincer, ac ar wefan newyddion BroAber360.

Categorïau
newyddion

cyhoeddi dyddiad y perfformiad cyntaf

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd perfformiad cyntaf yn un rhith gan gôr cyfun Côr ABC a Chôr Dinas yn cael ei ryddhau drwy ddigwyddiad YouTube Première.

Rydym yn gwahodd aelodau’r ddau gôr, eu cymunedau ehangach a phawb â diddordeb yn ein prosiect i ymuno â ni i wylio’r perfformiad cyntaf gyda’n gilydd, ar wahân.

Drwy ddefnyddio YouTube Première i roi ‘perfformiad’ o’r darn a recordiwyd o bell, rydym yn gobeithio dod â chymunedau ehangach y ddau gôr ynghyd i rannu’r profiad gyda’i gilydd ar yr un pryd os nad yn yr un lle.

Bydd y darn yn cael ei berfformio am y tro cyntaf am 19:00 BST nos Wener, 22 Mai 2020, drwy’r linc isod:
https://www.youtube.com/watch?v=HA1ehR1odWA

css.php