Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020, mae Côr ABC wedi cyflwyno £500 i meddwl.org, gwefan sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr i ddarparu gwybodaeth am faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe godwyd yr arian drwy werthu printiau o waith celf gan yr arlunydd, Sioned Glyn, a gomisiynwyd gan Gôr ABC a Chôr Dinas yn sgil prosiect côr rhithwir yn un rhith i berfformio darn newydd sbon o’r un enw gan y cyfansoddwr, Andrew Cusworth, ar eiriau englyn y prifardd, Dafydd John Pritchard.
Dywedodd Gwennan Williams, arweinydd Côr ABC: “Roedden ni i fod i gymryd rhan mewn cyngerdd i godi arian i wefan Meddwl yn ôl ym mis Mehefin, ond gan fod y cyngerdd hwnnw wedi gorfod cael ei ganslo oherwydd y pandemig, ry’n ni’n falch iawn ein bod ni nawr yn gallu cyflwyno’r rhodd hwn a godwyd drwy ein prosiect yn ystod y cyfnod clo i’r wefan.
“Mae’r prosiect côr rhithwir a’n hymarferion rhithwir wythnosol wedi bod yn werth y byd i lawer ohonom dros y misoedd diwethaf, ac mae’n briodol bod y côr wedi dewis cefnogi gwefan sy’n sicrhau bod mwy o adnoddau a gwybodaeth am iechyd meddwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ei weithgareddau yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Ychwanegodd Andrew Cusworth, y cyfansoddwr ac arweinydd y prosiect: “Yr effaith bositif ar ein hiechyd meddwl yw un o’r nifer fawr o resymau pam ein bod ni’n canu mewn corau. Yn ystod y cyfnod clo, bu’n rhaid i gorau gael hyd i ffyrdd newydd o barhau i gwrdd, nid dim ond am resymau cerddorol, ond hefyd am resymau cymdeithasol a chymunedol, a hynny fel modd o godi calon yr aelodau, cadw mewn cysylltiad, a gofalu am ei gilydd. “A hithau’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae’n ein hatgoffa eto o bwysigrwydd cerddoriaeth yn ein bywydau ni, a’i phwysigrwydd i’n lles ni. Mae’r rhodd hwn i wefan Meddwl yn gydnaws ag amcanion ein prosiect, ac ry’n ni hefyd yn falch o estyn y prosiect er mwyn i gorau eraill greu eu perfformiadau rhithwir eu hunain o’r darn tra mae’r cyfyngiadau’n parhau.”