Categorïau
cymryd rhan perfformiad cyntaf

yn un rhith, yn gôr o hyd

Nos Wener 22 Mai 2020, fe gafodd yn un rhith ei berfformio am y tro cyntaf mewn perfformiad côr rhithwir ar y cyd gan Gôr ABC a Chôr Dinas. Dyma’r fideo!

Os oes gennych chi gôr SSA neu gôr SATB, byddwn ni’n diweddaru’r wefan hon dros y dyddiau nesaf er mwyn i chi gael gafael ar yr holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch chi (ar wahân i olygydd fideo!) i greu eich perfformiad côr rhithwir eich hun o’r darn. Bydd yr adnoddau’n cynnwys y sgôr, ymarferion perthnasol i gynhesu’r llais, fideos i’w defnyddio i ddysgu ac i recordio’r darn, a thrac cyfeiliant. Os hoffech chi gael mwy o fanylion drwy e-bost, ewch i’r dudalen ‘diweddariadau‘ i gofrestru.

Isod, fe welwch chi lincs at berfformiadau unigol y ddau gôr hefyd:

Côr ABC (SATB) – https://youtu.be/2ogOyJRUA8g

Côr Dinas (SSA) – https://youtu.be/Wbi6FBjL2J4