yn un rhith, yn gôr o hyd

croeso

Croeso i wefan yn un rhith. Diolch o galon am ddangos diddordeb yn ein prosiect côr rhithwir. 

Ry’n ni wedi cyfansoddi darn newydd, ei recordio a rhyddhau ein perfformiadau rhithwir, a nawr ry’n ni’n estyn ein prosiect côr rhithwir i chi a’ch côr.

Ers inni ddechrau, mae ein prosiect wedi ennyn sylw o bob rhan o’r byd, ac fe enillodd gymeradwyaeth uchel yn y categori ‘Prosiect Cyfnod Clo – Côr’ yng Ngwobrau Cerddoriaeth Glasurol Ddigidol 2020.

Ar y wefan hon, gallwch chi ddod i wybod mwy am y prosiect, gwylio fideos gorffenedig o’r darn, a chael gafael ar yr holl ddeunyddiau y bydd eu hangen arnoch chi i greu eich perfformiad rhithwir eich hun o’r darn gyda’ch côr chi, gan gynnwys copïau o’r sgôr, fideos i’w defnyddio i ddysgu ac i recordio’r darn, canllawiau recordio, trac cyfeiliant, ac ymarferion. Yr unig beth arall y bydd ei angen arnoch chi fydd golygydd fideo i wau holl fideos eich côr chi at ei gilydd!

Darllenwch y wefan i gael gwybod mwy am y prosiect, porwch drwy’r eitemau newyddion, ac ewch i’n tudalen diweddariadau i gofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y prosiect.

Os hoffech chi wybod mwy am deimladau ein cantorion ni am y prosiect a’r ymarferion rhithwir a’i hysbrydolodd, mynnwch gipolwg ar y dudalen ymateb ein cantorion ni.

css.php